Cysylltu â Childline yn Gymraeg

Mae Childline yma i bob plentyn a pherson ifanc yn y DU. Fe alli di siarad â ni am unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Ac mae modd i ti siarad â ni yn Gymraeg os wyt ti eisiau.

Mae gwybodaeth am gysylltu â Childline ar gael yn Saesneg. 

SIARAD Â CHILDLINE YN GYMRAEG

Fe alli di gysylltu â Childline am unrhyw beth. Beth bynnag sy’n dy boeni, mae’n well ei rannu.

Mae Childline yma i dy gefnogi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan fod gennym ni lai o gwnselwyr sy’n siarad Cymraeg, efallai na fydd modd i ti siarad yn Gymraeg yn syth. Ond rydyn ni am wneud popeth gallwn ni i dy gefnogi.

Ffyrdd o siarad â Childline:

  • Anfon e-bost
    Defnyddia dy gyfrif Childline i anfon e-bost ac fe gei di ateb o fewn 24 awr. Efallai na fyddwn ni’n gallu dy gefnogi’n Gymraeg yn syth, a byddwn fel arfer yn ateb yn Saesneg i ddechrau. I’n helpu ni i dy gefnogi’n well, copïa a gluda hyn ar ddechrau dy neges: “I would like to speak to Childline in Welsh, please pass this message to a Welsh speaking counsellor”
  • Ein ffonio ni ar 0800 1111
    Pan fyddi’n ein ffonio ni, byddi’n mynd drwodd yn gyntaf at neges awtomataidd Saesneg, pwysa 3 i fynd drwodd at gwnselydd. Efalla na fydd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrthyn nhw’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad â chwnselydd Cymraeg, bydd modd iddyn nhw weld a oes rhywun ar gael
  • Cael sgwrs 1-i-1
    Fe alli di siarad â chwnselydd ar-lein. Efalla na fydd y person ti’n ei gyrraedd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrtho’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad yn Gymraeg, bydd yn gweld a oes rhywun ar gael. 

Gwyliwch: Beth sy’n digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Childline?

Beth os nad oes cwnselydd Cymraeg ar gael?

Efallai bydd adegau lle nad oes gennym ni unrhyw gwnselwyr Cymraeg ar gael. Ond galli di siarad â ni beth bynnag. Os wyt ti’n cael trafferth siarad Saesneg, bydd ein cwnselwyr yn gwneud eu gorau i dy gefnogi di yn dy amser dy hun.

Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad Saesneg, fe wnawn ni geisio ffeindio allan pa bryd bydd cwnselydd Cymraeg ar gael.

4 ffaith am Childline:

  1. Mae Childline yn gallu dy gefnogi di yn Gymraeg dros y ffôn ac ar-lein
  2. Mae gennym gwnselwyr ym mhob rhan o’r DU, gan gynnwys Caerdydd a Phrestatyn
  3. Fe sefydlwyd ni gyntaf yn 1986 gan Esther Rantzen, ac agorodd ein canolfan gyntaf yng Nghymru yn 1992
  4. Mae ffonio Childline yn ddi-dâl ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn.

Pa bryd mae cwnselwyr Cymraeg ar gael?

Os wyt ti am siarad â ni’n Gymraeg, mae’n gallu bod yn haws ffonio pan fydd ein canolfannau yng Nghymru ar agor. Efallai na fydd gennym ni gwnselydd Cymraeg ar gael, ond fe all ein canolfannau yng Nghymru roi gwybod i ti pa bryd mae cwnselydd Cymraeg yn debygol o fod ar gael.

Amseroedd agor ein canolfannau yng Nghymru

  • Dydd Llun - 16.00 - 23.00
  • Dydd Mawrth - 14:00 – 17:30
  • Dydd Mercher - 0900 - 01:00
  • Dydd Iau - 14.30 - 01:00
  • Dydd Gwener - 14:30 – 01:00
  • Dydd Sadwrn - 09:30 - 00:00
  • Dydd Sul - 18:00 - 23.00

Defnyddio rhannau eraill o Childline yn Gymraeg

Mae modd gweld gwefan Childline yn Gymraeg drwy ddefnyddio ein bar hyygyrchedd.

Os wyt ti’n cael trafferth defnyddio ein gwefan oherwydd ei bod yn Saesneg, fe alli di anfon e-bost atom ni i ofyn am gyngor. Bydd ein cwnselwyr yn gwneud eu gorau i dy helpu di.

Addewid Cyfrinachedd

Mae cyfrinachedd yn golygu peidio â dweud wrth neb am beth rwyt ti wedi'i ddweud. Beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud, bydd hynny’n aros rhwng ti a Childline. Ac fe alli di deimlo’n ddiogel yn siarad â ni, yn gwybod na fydd neb arall yn dod i wybod. Os ydyn ni’n poeni am dy ddiogelwch, efallai bydd angen i ni chwilio am help i ti weithiau.

Yr unig droeon byddwn ni’n dweud wrth rywun beth rwyt ti wedi’i ddweud wrthym ydy:

  • Os wyt ti’n gofyn i ni wneud hynny
  • os ydyn ni’n credu bod dy fywyd di neu fywyd rhywun arall mewn perygl
  • os wyt ti’n cael dy frifo gan rywun mewn safle o ymddiriedaeth sy’n gallu brifo plant eraill, fel athro, arweinydd crefyddol, hyfforddwr chwaraeon, swyddog heddlu neu feddyg
  • os wyt ti’n dweud wrthym dy fod yn achosi niwed difrifol i rywun arall
  • os wyt ti’n dweud wrthym am blentyn arall sy’n cael ei frifo ac nad yw’n gallu dweud wrth rywun neu nad yw’n deall beth sy’n digwydd iddo
  • os yw'r gyfraith yn dweud wrthym fod rhaid i ni, er enghraifft ar gyfer achos llys.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am ein cyfrinachedd, fe alli di siarad â chwnselydd Childline neu ddarllen ein haddewid cyfrinachedd (yn agor yn Saesneg).