Canllawiau

Gwirio a yw neges destun a gawsoch gan CThEF yn ddilys

Gwiriwch restr o negeseuon testun diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw neges destun rydych wedi’i chael yn sgam.

Os nad yw’ch neges destun wedi’i rhestru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.

Cysylltiadau mewn negeseuon testun

Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.

Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i wasanaeth sgwrs dros y we CThEF.

Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.

Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, dylech anfon unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.

Negeseuon testun i gadarnhau a diweddaru

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun i gadarnhau ein bod wedi cael y canlynol oddi wrthych:

  • hawliad

  • ffurflen

  • gohebiaeth arall

Taliadau Costau Byw

Ar 9 Chwefror 2024, os ydych yn cael credydau treth mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Bydd y neges destun yn esbonio y bydd y Taliad Costau Byw o £299 yn cael ei dalu’n awtomatig rhwng 16 Chwefror a 22 Chwefror 2024.

Nid yw cael neges destun, na bod wedi cael Taliad Costau Byw yn flaenorol, yn golygu eich bod o reidrwydd yn gymwys ar gyfer yr un hwn. Dysgwch ragor am gymhwystra ar gyfer Taliadau Costau Byw.

Ni fydd y neges destun hon yn:

  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau
  • gofyn am fanylion personol nac ariannol
  • gofyn am ymateb

Gwerthiannau ar-lein

Bydd CThEF yn cysylltu drwy neges destun â chwsmeriaid a allai fod ag incwm heb ei ddatgan o werthiannau ar-lein. Mae hyn i’ch atgoffa i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF am yr incwm hwn

  • gwneud datgeliad gwirfoddol

Ni fydd y negeseuon hyn yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol

  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau

Arolwg yn dilyn galwad i CThEF neu wiriad cydymffurfio

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon arolwg atoch ar ôl gadael drwy neges destun os ydych wedi gwneud y canlynol:

  • cytuno i roi adborth ar ôl ffonio un o’n canolfannau cyswllt

  • mynd drwy wiriad cydymffurfio

Ni fydd y neges destun hon yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol

  • cynnwys unrhyw rifau ffôn

  • darparu cysylltiadau i wefannau ar wahân i blatfform yr arolwg

Credydau treth

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun i gadarnhau eich cyfweliadau ynghylch hawliadau credyd treth, ac i’ch atgoffa amdanynt.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi drwy neges destun i ofyn i chi ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i drafod eich hawliad.

Ni fydd y negeseuon testun hyn yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol

  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau

Negeseuon testun eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r negeseuon testun a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.

Cyhoeddwyd ar 30 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 February 2024 + show all updates
  1. Information for Cost of Living Payments has been updated.

  2. Information has been added about Cost of Living Payments for tax credits customers.

  3. Added translation

  4. Added translation

  5. Information about when HMRC might send you a text message has been updated.

  6. Information has been added about Self Assessment tax checks.

  7. Information on 'Online sales' has been added. Information on 'Tax credits' has been updated to no longer say we will no longer ask you to call the tax credit helpline.

  8. Added translation

  9. Information about when HMRC might send you a text message if you call one of our helplines from a mobile phone, and what it might include has been added.

  10. Information on tax credits has been updated.

  11. Information on commercial drivers and online status checks has been added.

  12. Information about Child Benefit has been added.

  13. Information about tax credit renewals and Child Benefit has been added.

  14. Information about commercial drivers and online status checks has been added.

  15. HMRC appointment reminders section has been added.

  16. Added information on EU Settlement Scheme.

  17. Information on 'Post Office card accounts' and 'Self Assessment tax returns' has been added.

  18. Information about EU Settlement Scheme has been added.

  19. Added translation

  20. We have added that we may text you to ask if you've told us about a change of circumstances for a young person on your tax credit claim.

  21. Updated to show HMRC is using a new number to send text messages to customers.

  22. Added translation